Cyflwyno ffeiliau i'r LolfaOs nad ydych wedi cyflwyno gwaith o'r blaen i'r Lolfa ar gyfer argraffu, dyma rai pwyntiau i'w cofioY fformat mwyaf cyfleus ar gyfer danfon gwaith yw fel ffeil PDF. Ond rhaid i'r PDF fod yn gywir – gweler y pwyntiau islaw! Rydym hefyd yn gallu derbyn ffeiliau yn y rhaglenni canlynol: Quark Xpress In Design (Mac a PC) Photoshop Illustrator Os ydych yn anfon gwaith yn un o'r rhaglenni yma, dylech “becynnu” (package) y gwaith neu ei “gasglu” (collect for output). Bydd hyn yn rhoi nifer o ffeiliau defnyddiol gan gynnwys ffeil y gwaith ei hun. Os bydd 'na broblem dechnegol, byddwn wedyn yn gallu mynd at y ffontiau a'r lluniau gwreiddiol. Gallwn hefyd dderbyn ffeiliau mewn rhaglenni eraill fel Word, Publisher, Pagemaker, Freehand a Corel Draw ond gall fod cost ychwanegol i baratoi'r ffeiliau yma ar gyfer argraffu (@ £30 yr awr). Pwyntiau i'w cofio wrth gyflwyno unrhyw waith ar gyfer argraffu: • pob llun yn CMYK – pedwar lliw (nid RGB – tri lliw) (os nad yn ddu-a-gwyn, wrth gwrs) • dylai ansawdd y lluniau fod yn 300 dpi neu'n uwch • os yn creu PDF o system PC, dylai'r ffontiau fod yn rhai Postscript neu Open Type – ffoniwch os nad ydych yn siwr! • mae angen “gwaedu” o 5mm o gwmpas y dudalen os yw'r gwaith yn mynd dros ymyl y dudalen • dylai'r marciau crop fod 6mm oddi wrth ymyl y dudalen ei hun. Gallwn hefyd gyflenwi ffontiau Cymraeg i chi, yn rhad ac am ddim, at bwrpas gwaith Y Lolfa. Mae'r rhain yn cynnwys y llythrennau “ŵ” ac “ŷ” cywir. Ac yn olaf maint ffeiliau: gallwch anfon unrhyw ffeiliau hyd at 8Mb ar ebost cyffredin. Os am anfon ffeiliau mwy, defnyddiwch wefan “Sendit” – manylion gan Y Lolfa. Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE +44(0) 1970 832 304 |

