Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Cyhoeddiadau am : Awdur = Mererid Puw Davies

Mererid Puw Davies

Ganed Mererid Puw Davies yn 1970 a chafodd ei magu yn Sir Gaerhirfryn a Chlwyd. Ers hynny mae wedi rhannu ei hamser rhwng Rhydychen a gwahanol diroedd pellennig eraill, yn bennaf yr Almaen. Graddiodd mewn ieithoedd modern ym Mhrifysgol Rhydychen.

Gyda'i chwaer Angharad mae Mererid yn gyd-awdur dau lyfr antur aml-ddewis, Trwy Ogof Arthur a Melltith Madog a gyhoeddwyd gan y Lolfa yn 1986 a 1989. Yn ogystal mae'n awdur dwy gyfrol o gerddi. Cyhoeddwyd y gyntaf, Darluniau, a ennillodd iddi Fedal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd, yn 1988. Ymddangosodd ei hail gyfrol, Caneuon o Ben Draw'r Byd, yng nghyfres Beirdd Answyddogol y Lolfa yn 1996. Tardda llawer o'r Caneuon o Ben Draw'r Byd o gyfnod hir a dreuliodd Mererid yng Ngogledd Llydaw. "Penn ar Bed" - Pen Draw'r Byd - yw enw'r ardal honno ac mae'r cerddi'n ymdrin ag argraffiadau ac eiliadau yno. Amcan y gyfrol hon oedd cyflwyno cerddi syml - neu'n hytrach ganeuon - allent gyfleu amrantiad ar amrantiad, fel yn y caneuon o'r gyfrol sy'n dilyn.

Mae Mererid hefyd wedi cyhoeddi beirniadaeth lenyddol a diwylliannol yn Gymraeg ar gyfer cylchgronnau megis Tu Chwith; ac yn Saesneg mae wedi cyhoeddi ar agweddau ar fytholeg a straeon tylwyth teg mewn llenyddiaeth Ewropeaidd gyfoes.

Gwefan

Darganfuwyd 1 cofnod.

Llyfrau Cymraeg
Ewch | Go
£4.50

Caneuon o Ben Draw'r Byd   (Mererid Puw Davies)
Ail gyfrol barddoniaeth Mererid Puw Davies. Ysgrifennwyd nifer o'r cerddi yn ystod blwyddyn a dreuliwyd yn Penn-ar-Bed (...




Chwilio'r catalog am: neu gyfuniad o'r meysydd isod:
ISBN neuAllweddair
AwdurTeitl



Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304