Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Cyhoeddiadau am : Awdur = Urien Wiliam

Urien Wiliam

Urien Wiliam

Ganwyd yn 1929, yn enedigol o Abertawe a'i addysgu yn Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe, a Choleg Prifysgol Abertawe lle graddiodd yn y Gymraeg yn 1950. Enillodd radd M.A.Cymru yn 1956 am ymchwil ar hanes Ysgolion Morgannwg a Ph.D. Prifysgol Lerpwl yn 1963 am ymchwil ar brofion deallusrwydd ar gyfer plant Cymraeg eu hiaith.

Fe fu'n athro am gyfnod yn Ysgol Ramadeg Doc Penfro ac yna'n gymrawd Ymchwil yng Nghlinig Cyfarwyddo Plant, Hen Golwyn a threuliodd bedair blynedd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin cyn symud i Goleg Addysg y Barri yn 1964. Ers 1981 bu'n awdur a chyfieithydd amser-llawn.

Yn 1972 a 1973 enillodd Dlws Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol a chafodd gomisiwn i sgrifennu'r ddrama 'Michal' ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1978.
Cyhoeddodd ddau lyfr gramadeg ac amryw ddramâu a nofelau e,e, 'Y Llyw Olaf' ac 'Y Pypedau' (dramâu), 'Breuddwyd Rhy Bell'(nofel), 'Cyffur Cariad' a 'Twyll Diderfyn' [dwy nofel drwy Wasg Y Lolfa]. Cafodd y fraint o lunio'r cartwnau teledu ar gyfer cymeriad adnabyddus y ddiweddar Jennie Tomos – Wil Cwac Cwac, a chreodd y gyfres deledu 'Coleg' ar gyfer cwmni HTV ac S4C yn 1982-3. Fe fu hefyd yn sgriptio'n ysbeidiol ar gyfer rhaglenni radio i blant ac oedolion.

Roedd yn briod ag Eiryth am dros hanner canrif cyn ei farwolaeth yn Hydref 2006. Mae hefyd yn gadael tri o blant a thri o wyrion.

Darganfuwyd 3 cofnod.

Llyfrau Cymraeg
Ewch | Go
£5.50

Corff yn y Capel   (Urien Wiliam)
Llofruddiaeth mewn capel! Beth yw arwyddocad arwydd y Seiri Rhyddion? Roedd cymar y Prif Arolygydd Mair Jeremy, hyd yn o...

Ewch | Go
£4.95

Cyffur Cariad   (Urien Wiliam)
Nofel dditectif sy'n arwain y swyddog tollau, Lyn Owen, ar draws dau gyfandir wrth iddo geisio dod o hyd i lofrudd ei ga...

Ewch | Go
£5.95

Twyll Diderfyn   (Urien Wiliam)
Mae twyll rhwng gwr a gwraig yn arwain at garcharu Peter Vaughan am flynyddoedd maith. Ar ol cael ei draed yn rhydd dim ...




Chwilio'r catalog am: neu gyfuniad o'r meysydd isod:
ISBN neuAllweddair
AwdurTeitl



Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304