Hafan | Home
Y Lolfa - Gwasg fywiocaf Cymru
Talybont  Aberystwyth  Ceredigion  Cymru/Wales  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ffacs 832 782   ylolfa@ylolfa.com
Chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

Salvage

Gee Williams  Llyfrau eraill gan Gee Williams

Mae gwyliau byr mewn bwthyn glan-mor yn le delfrydol i frwydro'ch problemau. Dyma gyfle perffaith i Elly a Martin gael anghofio gorfod ymadael a Pharadwys yn dilyn sgandal. Ond daw Elly ar draws darganfyddiad, fydd yn newid ei bywyd, ar y traeth. Modrwy fawr ddiemwnt binc ydyw, gydag esgyrn bys yn dal yn sownd ynddi.
Ychydig fisoedd ynghynt, yng ngweithle Martin - ysbyty yng Nghaer - rydym yn cwrdd a nyrs newydd o'r enw Hayley. Pump-ar-hugain ac yn dlws dros ben, does ganddi ddim diddordeb yn llawfeddyg y ward, Richard Congreve. Hynny yw, nes iddi weld rhywbeth gwerthfawr iawn yn ei Jag, a chael ei swyno gan anrheg sydd mor ddymunol fel y gall brofi i fod yn angeuol.
Wrth ddechrau holi am berchennog y fodrwy a'i bys, mae'r bwthyn yn casglu cyfrinachau y ffrindiau a'r dieithriaid a fu'n aros yno. Pam fod gan Elly y fath rym drostynt?
Gan symud rhwng Cymru, gogledd Lloegr a Goa, nofel yw hon am feddiant, brad a thrais - a beth yn union allwn ni fforddio ei golli.

ISBN: 9780955527203

Adran:

Iaith: Saesneg

£9.99     



alcemi logo




Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304